Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 6 Ionawr 2020

Amser: 14.33 - 15.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5864


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Suzy Davies AC

Carwyn Jones AC

Dai Lloyd AC (Cadeirydd dros dro)

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Rachael Davies (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro

Oherwydd bod Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Carwyn Jones Dai Lloyd, a etholwyd yn briodol.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(5)482 - Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(5)478 - Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.3   SL(5)481 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.4   SL(5)484 - Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd ac i dynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

</AI7>

<AI8>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI8>

<AI9>

4.1   SL(5)476 - Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gywiro’r camgymeriadau a nodwyd yn yr adroddiad drafft, ac i adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

5       Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI10>

<AI11>

5.1   SL(5)479 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

</AI11>

<AI12>

5.2   SL(5)480 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Dodwy a Chywennod

Trafododd y Pwyllgor yr is-ddeddfwriaeth ac roedd yn fodlon.

</AI12>

<AI13>

6       Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

</AI13>

<AI14>

6.1   SICM(5)27 - Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i osod ei adroddiad gerbron y Cynulliad maes o law.

</AI14>

<AI15>

7       Papur(au) i'w nodi

</AI15>

<AI16>

7.1   Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Gwaith craffu’r Cynulliad ar gytundebau rhyngwladol

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

</AI16>

<AI17>

7.2   Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd: Tynnu Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn ôl

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynghylch tynnu offerynnau a osodwyd gerbron y Cynulliad yn ôl.

</AI17>

<AI18>

7.3   Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau'r DU yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

</AI18>

<AI19>

7.4   Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

</AI19>

<AI20>

7.5   Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

</AI20>

<AI21>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

</AI21>

<AI22>

9       Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) - sesiwn friffio

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad byr ar hynt Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>